Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5
Dyddiad: Dydd Iau, 15 Mehefin 2023
Amser:
09.01 -
13.13
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13373
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Mabon ap Gwynfor AS Jayne Bryant AS Joel James AS Sam Rowlands AS Carolyn Thomas AS |
Tystion: |
Jess Blair, Electoral Reform Society Cymru Lis Burnett, Cyngor Bro Morgannwg Natasha Davies, Partner Polisi, Chwarae Teg Paul Egan, Un Llais Cymru Catherine Fookes, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru Professor Uzo Iwobi OBE, Cyngor Hiliaeth Cymru Megan Thomas, Swyddog Polisi, Anabledd Cymru Chris Dunn, Diverse Cymru Nia Wyn Jeffreys, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Joseph Lewis, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Dr Stefanie Reher Nia Thomas, Electoral Reform Society Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Manon George (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Angharad Era (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.
2 Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol - Sesiwn Dystiolaeth 1
2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Y Cynghorydd Lis Burnett – Arweinydd, Cyngor Bro Morgannwg
Y Cynghorydd Nia Wyn Jeffreys – Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd
Joseph Lewis – Swyddog Gwella, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Paul Egan – Dirprwy Brif Swyddog, Un Llais Cymru
2.2. Cytunodd cynrychiolwyr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth am y graddau y mae awdurdodau lleol yn rhannu swyddi.
2.3. Cytunodd cynrychiolwyr CLlLC i ddarparu rhagor o fanylion am yr adolygiad desg o amrywiaeth ar draws awdurdodau lleol a gynhaliwyd gan CLlLC yn dilyn etholiad llywodraeth leol yn 2022.
2.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i geisio barn y tystion am ganllawiau, hyfforddiant a chymorth i gynghorwyr i ymdrin â bygwth, aflonyddu a cham-drim ar-lein.
3 Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol - Sesiwn Dystiolaeth 2
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Jess Blair – Cyfarwyddwr ERS Cymru.
Dr Nia Thomas – Swyddog Ymchwil ac Ymgyrchoedd, ERS Cymru
Dr Stefanie Reher – Prifysgol Strathclyde
3.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu i geisio barn y tystion am ganllawiau, hyfforddiant a chymorth i gynghorwyr i ymdrin â bygwth, aflonyddu a cham-drim ar-lein.
4 Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol - Sesiwn Dystiolaeth 3
4.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
Catherine Fookes – Cyfarwyddwr, Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru
Natasha Davies – Pennaeth Polisi, Materion Cyhoeddus ac Ymchwil, Chwarae Teg
Chris Dunn - Prif Swyddog Gweithredol, Diverse Cymru
Yr Athro Uzo Iwobi – Sylfaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol, Race Council Cymru
Megan Thomas – Swyddog Polisi ac Ymchwil, Anabledd Cymru
5 Papurau i'w nodi
5.1 Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Cyllid at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethi Annomestig
5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.2 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethi Annomestig
5.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.3 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol at y Pwyllgor Cyllid - Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethi Annomestig
5.3 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.4 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol - gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd awdurdodau lleol
5.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
5.5 Gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd awdurdodau lleol - Gwybodaeth ychwanegol gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth yn dilyn y sesiwn dystiolaeth ar 24 Mai
5.5 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
7 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethi Annomestig - ystyried yr adroddiad drafft
7. Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft.
8 Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol - trafod y dystiolaeth a crynodeb o waith ymgysylltu
8. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a chrynodeb o’r gwaith ymgysylltu.